Thomas Pennant

  • Nyhet

Cysylltiadau Cymreig

Häftad, Kymriska, 2025

Av Ffion Mair Jones

349 kr

Beställningsvara. Skickas inom 5-8 vardagar
Fri frakt för medlemmar vid köp för minst 249 kr.

Ar drothwy trichanmlwyddiant ei enedigaeth, mae'r gyfrol hon yn cyflwyno’r astudiaeth lawn gyntaf o Thomas Pennant, y naturiaethwr a'r teithiwr o Sir y Fflint, ar gyfer cynulleidfa Gymraeg ei hiaith. Er gwaethaf ei fri rhyngwladol yn ei ddydd, esgeuluswyd Pennant yn ddiweddarach gan ei gydwladwyr mewn cof niwlog fel ‘teithiwr’. Cynigir yma ddarlun mwy cymhleth sy’n cydnabod ei le fel un o feddylwyr polymathig yr Oleuedigaeth, â’i ddiddordebau’n rhychwantu byd natur, celf a hynafiaethau. Edrychir ar y Cymry allweddol a ddylanwadodd ar ei waith – o Forrisiaid Môn, sylfaenwyr Cymdeithas y Cymmrodorion, hyd at John Lloyd, rheithor rhadlon Caerwys, a’r artist Moses Griffith o Ben Llŷn. Wrth bendroni sut y ciliodd Pennant o olwg ei gyd-Gymry, ystyrir argyfwng adroddiad y Llyfrau Gleision a’r wleidyddiaeth ieithyddol a ddaeth yn ei sgil, cyn ymddangosiad cyfieithiad llawn yn y Gymraeg o’r Teithiau yng Nghymru, ganrif wedi marwolaeth yr awdur.Mae'r gwaith hwn wedi'i drwyddedu dan y Drwydded Ryngwladol Creative Commons Attribution-NonCommercial-NoDerivatives 4.0. I weld copi o'r drwydded hon, ewch i: http://creativecommons.org/licenses/bync-nd/4.0/ neu anfonwch lythyr at Creative Commons, PO Box 1866, Mountain View, CA 94042, UDA.

Produktinformation

  • Utgivningsdatum2025-08-15
  • Mått138 x 216 x 27 mm
  • Vikt594 g
  • FormatHäftad
  • SpråkKymriska
  • Antal sidor400
  • FörlagUniversity of Wales Press
  • ISBN9781837722914