Bardd yw Dom Conlon. Wrth siarad ar BBC Radio Lancashire, neu wrth gynnal gweithdai i blant, natur a’r sêr sy’n llywio popeth mae’n ei wneud. Dywedodd Nicola Davies fod Astro Poetica yn ‘feddylgar, yn procio’r dychymyg a’r meddwl ac yn hwyl’. Barn Chris Riddell am This Rock That Rock oedd ei fod yn cynnwys ‘geiriau a lluniau oedd yn rhyfeddol ac yn wledd i’r llygad a’r glust’. Mae Dom yn gobeithio medru ysbrydoli pawb i ddarllen a sgwennu barddoniaeth.Mae Anastasia Izlesou yn ddarlunydd a dylunydd rhyngddisgyblaethol o’rDeyrnas Unedig. Gan ddefnyddio cyfuniad o gyfryngau traddodiadol a digidol, mae’n creu gwaith egnïol sy’n llawn elfennau naturiol, mentrus. Daw ei hysbrydoliaeth o’r gwyddorau naturiol, llenyddiaeth a llên gwerin, a hefyd o eitemau bob-dydd ac eitemau kitsch.