Beställningsvara. Skickas inom 5-8 vardagar. Fri frakt för medlemmar vid köp för minst 249 kr.
Mae'r gyfrol arloesol hon yn cyflawni dwy amcan. Yn gyntaf - ac am y tro cyntaf - mae'n cynnwys hanes lleiafrifoedd ethnig oddi mewn i'r diwylliant Cymraeg, a hynny o ddyddiau Macsen Wledig hyd heddiw. Yn ail, mae'n dehongli amlethnigrwydd o safbwynt Cymraeg yn hytrach na Saesneg, sy'n arwain at y cwestiwn, 'Pwy yw'r Cymry?' Yn ogystal a'r hanes cyffredinol, ceir penodau am y Sipsiwn Cymreig, Gwyddelod yng Nghymru, amlethnigrwydd cefn gwlad, y Cymry fel lleiafrif ethnig yn Lloegr, a hiliaeth yn erbyn pobl ddu. O ran ei syniadaeth, mae'r gyfrol yn neilltuol gyffrous, a thrafodir pethau mor amrywiol a chenedlaetholdeb a hil, perthynas y Cymry a threfedigaethedd a chaethwasiaeth, Saeson Cymraeg, gwleidyddiaeth iaith, ac amrywiaeth mewnol mewn diwylliannau lleiafrifol. Daw'r gyfrol i ben gan ofyn ai'r Cymry yw pobl frodorol Ynys Prydain. Mae'r cwbl yn rhan o brosiect ehangach yr awdur i geisio ailddehongli'r diwylliant Cymraeg o'i gwr.
Athro Cyswllt ym Mhrifysgol Abertawe yw Dr Simon Brooks. Hanes y diwylliant Cymraeg yw maes ei arbenigedd, ac mae mae ei weithiau blaenorol yn cynnwys O Dan Lygaid y Gestapo (2004), Yr Hawl i Oroesi (2009), Pa Beth yr Aethoch Allan i’w Achub? (2013), Pam na fu Cymru (2015) ac Adra (2018).
Rhestr LuniauRhagairDiolchiadau1.Cyflwyniad2.Beth sy'n bod ar amlddiwylliannedd Eingl-Americanaidd unigolyddol?3.Hanes Cymry - lleiafrifoedd ethnig yn yr archif Gymraeg4.Amlddiwylliannedd Cymraeg5.Hybridedd lleiafrifol6.Pwy yw'r Cymry? i.Pa mor amlethnig yw'r Fro Gymraeg wledig? Gweler Llyn ac Eifionyddii.Ystyr y gair 'Cymry': llenorion Cymraeg o gefndir lleiafrifol ethnigiii.Y Cymry fel lleiafrif ethnig yn Lloegr: lleiafrif heb ei gydnabod7.Mae 'na Wyddel yn y dre - dinasyddiaeth Gymraeg a thair ideoleg: rhyddfrydiaeth, sosialaeth a chenedlaetholdeb8.Ydy'r Cymry'n ddu? - trefedigaethwyr a threfedigaethedig9.Y Sipsiwn Cymreig - un o ddwy bobl frodorol y Fro Gymraeg10.Diweddglo - brodorion amlethnig Ynys PrydainLlyfryddiaethNodiadau