Griffith Davies
Arloeswr a Chymwynaswr
Häftad, Kymriska, 2023
289 kr
Beställningsvara. Skickas inom 5-8 vardagar
Fri frakt för medlemmar vid köp för minst 249 kr.Dyma gyfrol sy’n croniclo bywyd a gwaith Griffith Davies (1788–1855), o’i blentyndod tlawd yn ardal chwareli Arfon i’w waith fel sefydlydd ysgolion mathemateg yn Llundain cyn gosod sylfaen i’r proffesiwn actiwari. Tri mis yn unig o addysg ffurfiol a dderbyniodd Davies, a dyna pryd y sylweddolwyd fod ganddo allu rhyfeddol mewn mathemateg. Mentrodd i Lundain, ac ar ôl blynyddoedd wedi ymroi i hunan ddysgu cyhoeddodd lyfrau mewn mathemateg, ac yn y pen draw fe’i penodwyd yn brif actiwari i gwmni yswiriant y Guardian yn y ddinas. Wrth i’w yrfa ddatblygu, daeth yn Gymrawd o’r Gymdeithas Frenhinol a derbyniodd glod ac anrhydeddau am ei waith. Bu’n weithgar ym mywyd Cymraeg Llundain gan sefydlu cyfres o ddarlithoedd gwyddonol yn ei famiaith, ac ymgyrchodd yn llwyddiannus dros hawliau tyddynwyr bro ei febyd a thros addysg i’w gyd-wladwyr. Mae hanes bywyd Griffith Davies yn stori sy’n ysbrydoli.
Produktinformation
- Utgivningsdatum2023-04-15
- Mått138 x 216 x 21 mm
- Vikt362 g
- FormatHäftad
- SpråkKymriska
- SerieScientists of Wales
- Antal sidor232
- FörlagUniversity of Wales Press
- ISBN9781837720316