Mae'r awdur Nicola Davies wedi ennill nifer o wobrau, ac ymhlith ei llyfrau i blant mae The Promise, Tiny, A First Book of Nature, Whale Boy a chyfres Heroes of the Wild. Sylfaen holl weithiau Nicola yw ei chred fod perthynas â natur yn hanfodol i bob person byw, a bod angen inni adnewyddu'r berthynas honno nawr yn fwy nag erioed.Roedd gan Cathy Fisher wyth o frodyr a chwiorydd, a byddai'r plant i gyd yn chwarae yn y caeau'n edrych allan dros ddinas Caerfaddon. Ymhlith ei llyfrau cyntaf i gael eu cyhoeddi gan Graffeg y mae Perfect, ac yna The Pond, y ddau gan Nicola Davies. Cyrhaeddodd y ddwy gyfrol Rhestr Hir Gwobr CILIP Kate Greenaway, ac mae'r ddwy (Perffaith a Y Pwll) ar gael gan Graffeg yn Gymraeg.