Ganwyd Julia Hubery yn Stamford a’i hyfforddi’n bensaer. Mae wedi cyhoeddi 16 llyfr stori-a-llun sydd wedi’u cyfieithu i sawl iaith, gan gynnwys When Granny Saved Christmas, A Little Fairy Magic a That’s What Friends are For – ar gyfer Little Tiger Press.Mae James Munro wedi bod yn tynnu lluniau ers ei fod yn medru gafael mewn pensil. Ers hynny, mae wedi gorchuddio popeth mewn dŵdls – gan gynnwys llyfrau, cylchgronau, bwydlenni a ffilmiau! Mae’n byw mewn pentwr o bapur, naddion pensiliau ac inc yn Lerpwl. Uchelgais James yw cael sied fel un tad Ffion, rhyw ddydd.