Mae Dr Tom Russ PhD FRCPsych yn seiciatrydd ymgynghorol yng Ngwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) Lothian ac yn ddarllenydd clinigol anrhydeddus ym Mhrifysgol Caeredin. Mae wedi gweithio yn y GIG ers 2004, o Caithness yng ngogledd yr Alban i Orllewin Sussex ar arfordir de Lloegr, a sawl lle arall rhwng y ddau. Roedd ei PhD yn canolbwyntio ar ffactorau risg ar gyfer dementia, gan holi’n benodol a yw ble mae pobl yn byw a ffactorau risg amgylcheddol yn bwysig. Mae’n Gyfarwyddwr Alzheimer Scotland Dementia Research Centre ym Mhrifysgol Caeredin ac yn Hyrwyddwr Ymchwil Glinigol NHS Research Scotland (NRS) Neuroprogressive and Dementia Network.Michael Huddleston yw Ymgynghorydd Dementia Alzheimer Scotland ar gyfer Midlothian ac East Lothian. Mae’n rhoi cyngor a gwybodaeth i bobl sy’n byw gyda dementia a’u teuluoedd, ac mae’n gweithio’n agos gyda Phartneriaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol lleol i lunio a dylanwadu ar strategaethau dementia a strategaethau penodol i ofalwyr, ac i ddiwallu anghenion ac ystyried barn pobl sydd â phrofiad o fyw gyda dementia.