Hoppa till sidans huvudinnehåll

Catrin o Ferain

  • Nyhet

Mam Cymru

Inbunden, Kymriska, 2026

AvHelen Williams-Ellis

379 kr

Beställningsvara. Skickas inom 5-8 vardagar. Fri frakt för medlemmar vid köp för minst 249 kr.


Ganed Catrin o Ferain yng ngogledd-ddwyrain Cymru ym 1535, mewn cyfnod hanesyddol gythryblus. Bu’n rhaid iddi droedio’n gyfrwys ac yn ofalus gydol ei hoes. Yn aeres gyfoethog o’i chrud i’w bedd, priododd yn dda, a’i blaenoriaeth oedd gwarchod ei hetifeddiaeth. Gyda’i hail ŵr Rhisiart Clwch, teithiodd Catrin yn helaeth ar draws cyfandir Ewrop, ac fe baentiwyd y darlun enwog ohoni pan oedd yn Antwerp. Bu’n weddw deirgwaith, ond tristwch mwyaf ei bywyd oedd y cyhuddiad yn erbyn ei mab hynaf o fod yn fradwr, a’i farwolaeth erchyll ar grocbren Tyburn ym 1587. Bum mlynedd yn ddiweddarach, yr oedd Catrin hithau wedi’i chladdu. Yn ystod ei hoes, defnyddiodd Catrin y gyfundrefn farddol i hyrwyddo ei henw da, a dadlennol a difyr yw’r dyfyniadau sy’n britho’r cofiant. Rhyfeddol hefyd yw’r dystiolaeth sy’n dangos y cyfeillgarwch dwfn rhyngddi a’r bardd Wiliam Cynwal, ac mae’r gyfrol arloesol hon yn cyplysu tystiolaeth weledol y cyfnod modern cynnar gyda barddoniaeth beirdd yr uchelwyr.

Produktinformation

  • Utgivningsdatum2026-05-15
  • Mått156 x 234 x 32 mm
  • Vikt898 g
  • FormatInbunden
  • SpråkKymriska
  • SerieGwasg Prifysgol Cymru
  • Antal sidor272
  • FörlagUniversity of Wales Press
  • ISBN9781837723454
Hoppa över listan

Mer från samma serie

Hoppa över listan

Du kanske också är intresserad av

  • Nyhet
Del 2

Intrig i Amalfi

Anders de la Motte, Anette de la Motte

Pocket

79 kr129 kr