bokomslag Adrodd ar Dlodi
Samhälle & debatt

Adrodd ar Dlodi

Kerry Moore

Pocket

229:-

Funktionen begränsas av dina webbläsarinställningar (t.ex. privat läge).

Uppskattad leveranstid 7-11 arbetsdagar

Fri frakt för medlemmar vid köp för minst 249:-

  • 162 sidor
  • 2020

Mae'r llyfr hwn yn cyflwyno ymchwiliad manwl a systematig ar adrodd am dlodi yng Nghymru, gan drafod canfyddiadau prosiect ymchwil dwy flynedd o hyd a ariannwyd gan 'Exploring the Narrative Coalition' (grp o 10 sefydliad trydydd sector sydd wedi'u lleoli yng Nghymru. yr ESRC a Phrifysgol Caerdydd. Gan archwilio sut y mae newyddion am dlodi yn cael sylw gan newyddion darlledu, print ac ar-lein yn Saesneg ac yn Gymraeg, mae'n rhoi dealltwriaeth manwl o arferion presennol newyddiaduraeth a chyfathrebu ar fater hollbwysig sy'n wynebu Cymru.


Yn sgil degawd o bolisau cyni, gyda mesurau swyddogol yn cadarnhau bod profiadau o dlodi ac amddifadedd ar gynnydd, mae'r llyfr yn cynnig ymyriad amserol, gan ymchwilio'n feirniadol i naratifau'r cyfryngau prif ffrwd ar dlodi a sut y maent yn cael eu siapio. Mae'r llyfr hwn yn seiliedig ar ymchwil gwreiddiol a gynhaliwyd rhwng 2016-7, yn ystod cyfnod helbulus sy'n cynnwys argyfwng Tata Steel ym Mhort Talbot. De Cymru, etholiadau Llywodraeth Cymru ac ymgyrch refferendwm am aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd. Mae'n ymdrin sut y cafodd tlodi ei fframio ynghanol newyddion o bwys cenedlaethol ynghylch gwleidyddiaeth, busnes ac economi yn ogystal straeon mwy lleol, personol neu o bwys i'r gymuned ynghylch bywoliaeth a materion cymdeithasol.


Mae dadansoddiad meintiol o nodweddion allweddol yr ymdriniaethau ar draws mathau o gyfryngau gwahanol yn cynnig sylfaen dystiolaeth manwl ar gyfer deall sut y cafodd newyddion ynghylch tlodi ei gynrychioli. Mae hyn yn cynnwys edrych ar y themu cyd-destunoli mawr, grwpiau cymdeithasol a lleoliadau daearyddol sy'n cael sylw yn aml, achosion a chanlyniadau tlodi, a chyrchu gwybodaeth. Mae'n arddangos sut mae'r cyfryngau yng Nghymru yn ymateb yn wahanol i'r adroddiadau mwy negyddol sy'n nodweddiadol o rai adrannau gwasg genedlaethol y DU, yn enwedig o ran disgyrsiau sy'n achosi stigma ynghylch diweithdra a lles. Serch hynny, ceir cwestiynau pwysig eu codi ynghylch sut mae naratifau newyddion yn cyfleu ystyr ac yn enwedig y datgysylltiad rhwng y sylw a roddir i dueddiadau neu ddigwyddiadau macro-economaidd a'u heffaith ar fywydau pobl gyffredin.

Yn ogystal, mae'r llyfr yn archwilio pam fod y sylw a roddir i newyddion am dlodi yn cael ei lunio fel ag y mae, gan ddefnyddio canfyddiadau cyfweliadau manwl gyda newyddiadurwyr a golygyddion am eu harferion. Drwy olwg gwerthoedd a phrofiadau proffesiynol, mae'r llyfr yn ymchwilio'r heriau sy'n debygol o effeithio ar adrodd am dlodi. Ymhlith y materion allweddol mae defnyddio adnoddau ac arbenigedd arbenigol a ddyrennir i newyddiaduraeth materion cymdeithasol, yr anawsterau o ran adnabod a chyrraedd o bosibl grwpiau agored i niwed ledled Cymru a chynrychioli astudiaethau achos yn deg ac yn foesegol. Cynhaliwyd set o gyfweliadau gyda gweithwyr trydydd sector proffesiynol ynghylch eu hymgysylltiad gydag arferion y cyfryngau n...

  • Författare: Kerry Moore
  • Format: Pocket/Paperback
  • ISBN: 9781911653196
  • Språk: Engelska
  • Antal sidor: 162
  • Utgivningsdatum: 2020-11-26
  • Förlag: Ubiquity Press (Cardiff University Press)