Cyn-newyddiadurwr sydd hefyd wedi troi ei law at gyfarwyddo a sgwennu ar gyfer y teledu yw Ian. Wedi cyfnod yn gweithio ar bapurau lleol a chenedlaethol, mae wedi bod ynghlwm â’r byd teledu am dros ddeg mlynedd ar hugain, gan ymwneud â newyddion, rhaglenni dogfen, hysbysebion, rhaglenni comedi a sioeau adloniant. Mae Ian wedi sgwennu neu gyfarwyddo ar gyfer nifer o enwau cyfarwydd, gan ennill sawl gwobr am ei waith. Bu sgwennu ar gyfer plant yn freuddwyd ganddo ers tro. Mae’n rhannu ei gartref â’i wraig Millie, dwy gath, ambell greadur arall – a chrwban o’r enw Albert.