Dyma lyfr llawn lluniau doniol ac annwyl sy'n adrodd stori oesol am gydweithio a meddwl yn greadigol. Mae'n dangos hefyd sut y gall pawb, o bob lliw a llun, siâp a maint, wneud gwahaniaeth. Ar ddiwedd y stori ceir ffeithiau di-ri a difyr am yr Albert go iawn – deinosor bach a llysieuwr o fri – ac ysbrydoliaeth y stori hyfryd hon.