Credoau'r Cymry

Ymddiddanion Dychmygol ac Adlewyrchiadau Athronyddol

Häftad, Kymriska, 2016

Av Huw L. Williams, Huw L. Williams

249 kr

Beställningsvara. Skickas inom 5-8 vardagar
Fri frakt för medlemmar vid köp för minst 249 kr.

Trwy driniaeth wreiddiol a gafaelgar o rai o ffigyrau adnabyddus Cymru, mae Huw L. Williams yn amlygu nifer o'n credoau fel cenedl, sydd wedi profi'n ddylanwadol yng Nghymru a thu hwnt. Cyflwynir trafodaethau gwleidyddol, moesol a diwinyddol trwy ffurf ymddiddanion dychmygol, gyda sylwebaeth athronyddol ar elfennau canolog yr athrawiaethau hynny. Ymysg y sawl sy'n amlwg yn y gyfrol y mae Glyn Dwr, Robert Owen, Lady Llanover a Henry Richard, gyda'u syniadau pwysicaf wedi'u cyflwyno ar ffurf ymgom difyr sy'n cynnig cyflwyniad hygyrch i'r darllenydd. Yn dilyn pob ymgom, daw dadansoddiad o'r syniadau hynny i roi cyfrif trwyadl o ambell gysyniad a gosod cwestiynau gerbron ynglyn a grym a dilysrwydd y gwahanol gredoau. Pwysleisir yn arbennig y cysylltiadau anwahanadwy gyda thueddiadau deallusol ehangach Ewrop a'r modd y mae syniadaeth yng Nghymru wedi dylanwadu, ac wedi'i ddylanwadu gan, y cyd-destun ehangach. Ymhlyg yn y driniaeth yma o syniadaeth Gymreig ceir ymgais i amlygu sut y mae ystyriaethau athronyddol ynghlwm yn ein bywyd cyfunol, yn ogystal ag awgrym bod yna hanes syniadau neilltuol yn perthyn i Gymru.Dyma roi sylw priodol felly i sylwedd athronyddol y traddodiad deallusol hwnnw, a chynnig dathliad o'n credoau fel cenedl.

Produktinformation

  • Utgivningsdatum2016-07-15
  • Mått138 x 216 x 22 mm
  • Vikt348 g
  • FormatHäftad
  • SpråkKymriska
  • Antal sidor240
  • FörlagUniversity of Wales Press
  • ISBN9781783168804

Tillhör följande kategorier