Mae Miriam Halahmy wedi cyhoeddi nofelau, straeon byrion a barddoniaeth i oedolion a phobl ifanc. Mae ei straeon a’i cherddi wedi ymddangos mewn casgliadau, wedi cael eu darllen ar y radio, wedi cael eu perfformio ar lwyfannau, ac wedi cael eu gosod i gerddoriaeth. Cymeriadau cryf a sefyllfaoedd o fywyd go iawn yw cerrig sylfaen ei nofelau. Barn Miriam yw y dylai pawb barchu gobeithion, ofnau, breuddwydion ac, yn fwy na dim, berthnasau pobl yn eu harddegau.Mae Miriam yn byw yn Llundain. Mae hi’n briod ac mae ganddi ddau o blant sy’n oedolion bellach. Pan na fydd hi’n ysgrifennu, mae hi’n mwynhau paentio, teithio, ymweld â’i hoff le ar lan y môr, a threulio amser yng nghwmni’i theulu. Mae Miriam yn dal i weithio ar nofelau i bobl ifanc, ac mae’n mwynhau cwrdd â’i chynulleidfa mewn ysgolion a cholegau ac mewn gwyliau llyfrau o amgylch y Deyrnas Unedig ac ar y cyfandir.