Mae Máire Zepf wedi ysgrifennu 12 llyfr i blant, o lyfrau lluniau i nofel penillion i oedolion ifanc. Enillydd KPMG Children’s Book of the Year, Réics Carl Award a White Raven yn 2020, mae ei llyfrau’n ymddangos mewn 8 iaith ledled y byd. Máire o Co. Down, oedd y cyntaf i ddal swydd Children’s Writing Fellow for Northern Ireland, wedi’i lleoli yn y Seamus Heaney Centre for Poetry yn QUB (2017-19).Mae Andrew Whitson yn arlunydd arobryn ac yn frodor o Belffast sy’n hoffi cael ei alw’n Mr Ando! Mae’n byw mewn hen dŷ sy’n swatio’n gynnil ar ochr bryn niwlog; ar ymyl coedwig hud, islaw castell swyn yng nghysgod trwyn cawr.